Mae g2e, a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac a reolir ar ei rhan gan CODA Business Management Cyf, yn cynnig ystod o wasanaethau rhad ac am ddim i fyfyrwyr a rhai sydd wedi graddio’n ddiweddar sy’n dechrau busnes yng Nghymru. Byddwn ni’n eich helpu i roi’ch syniad busnes ar ben y ffordd, trwy gydol y cyfnod cychwyn ac am flwyddyn ar ôl i’ch busnes gael ei sefydlu.
Mae cefnogaeth g2e wedi’i llunio’n benodol i gyfateb i anghenion penodol pob busnes newydd unigol. Rydym yn rhaglen gwbl gynhwysol sy’n gweithio’n agos â phob Coleg a Phrifysgol yng Nghymru.
Beth bynnag yw’ch syniad busnes, a lle bynnag yr ydych yng Nghymru, gallwn ni wirioneddol helpu’ch syniad i ffynnu.
Cliciwch ar y dolenni i ddysgu sut y gallwn ni’ch helpu i wireddu’ch uchelgeisiau busnes


